Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 81 for "caradog pritchard"

1 - 12 of 81 for "caradog pritchard"

  • PRICHARD, CARADOG (1904 - 1980), nofelydd a bardd Ganwyd Caradog Prichard ar 3 Tachwedd 1904 ym Methesda, yr ieuengaf o dri mab i John Pritchard a Margaret Jane (ganwyd Williams), ei wraig. (Dywed Caradog mai ei 'chwiw' ef ei hun oedd sillafu ei enw yn 'Prichard'.) Chwarelwr yn Chwarel y Penrhyn oedd ei dad; buasai allan ar streic ar ddechrau anghydfod hir a chwerw 1900-3, er iddo efallai dorri'r streic yn ddiweddarach. Dim ond pum mis oed oedd
  • PRITCHARD, MICHAEL (c. 1709 - 1733), bardd Ganwyd c. 1709, mab i Richard William Pritchard, gwehydd a chlochydd, Llanllyfni, Sir Gaernarfon. Pan yn ifanc iawn aeth o Lanllyfni i Lanfechell ym Môn, lle y bu yn dilyn ei alwedigaeth fel garddwr yng ngwasanaeth William Bulkeley, Brynddu. Yr oedd yn fardd medrus, ac y mae llawer o'i weithiau ar gael. Y mwyaf nodedig o'i gyfansoddiadau oedd ' Cywydd i'r Wyddfa '; ' Cywydd Marwnad Owen Gruffydd
  • JONES, GRIFFITH RHYS (Caradog; 1834 - 1897), gof ac arweinydd cerddorol Ganwyd 21 Rhagfyr 1834 yn y Rose and Crown, Trecynon, Aberdâr. Peiriannydd oedd ei dad, John Jones, yng ngwaith haearn Llwydcoed, Aberdâr, a phrentisiwyd y mab yn of. Dysgodd gerddoriaeth yn ieuanc, a daeth yn chwaraewr medrus ar y ffidil. Yn 19 oed aeth â chôr i eisteddfod Aberafan, a chafodd wobr am ganu 'Haleliwia to the Father' (Beethoven); enw'r côr yn y gystadleuaeth oedd 'Côr Caradog,' ac
  • MORGAN ap CARADOG ap IESTYN (bu farw c. 1208), arglwydd barwniaeth Gymreig Afan Wallia (neu Nedd-Afan) yn arglwyddiaeth ('honour') Morgannwg mab Caradog a Gwladus, ferch Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr. Gwas anfodlon a fu ef erioed i arglwyddi Normanaidd Morgannwg ac yr oedd yn glos ei gyswllt â pholisi ei gefnder, yr arglwydd Rhys; ef, y mae'n debygol, oedd arweinydd y gwrthryfel ym Morgannwg yn 1183 (?). Bu'n briod ddwywaith - (1), â Gwenllian, merch Ifor Bach, a (2) â Gwerfil, ferch Idnerth ap Cadwgan. Bu iddo bedwar mab o leiaf; y
  • RHYS ab OWAIN ab EDWIN (bu farw 1078), brenin Deheubarth Gorŵyr Einion ab Owain ab Howel Dda. Efe oedd cynrychiolydd diwethaf llinach hynaf disgynyddion Howel. Wedi iddo ddilyn ei frawd Maredudd yn 1072 bu iddo ran a chyfran ym marwolaeth Bleddyn ap Cynfyn yn 1075; yn 1078 gorchfygwyd yntau yn Gwdig gan Trahaearn ap Caradog. Yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn lladdwyd ef trwy law Caradog ap Gruffydd. Dilynwyd ef gan ei gyfyrder, Rhys ap Tewdwr.
  • PRITCHARD, ROBERT (fl. 1730-8), bardd a llongwr Yn Blodeu-gerdd Cymry ceir cân grefyddol faith, ag enw ' Robert Pritchard, o Bentraeth, ym Môn, 1738,' o dani. Tebyg mai ef oedd y ' Robert Prichard Poet,' capten y llong fechan, Blessing, a fu'n cario llechi o Abercegin, ger Bangor, o 1730 hyd 1733 - cofnodir amdano ym mhapurau stad y Penrhyn.
  • PRITCHARD, CHARLES MEYRICK (1882 - 1916), chwaraewr pêl droed (Rygbi), fel blaenwr Ganwyd 30 Medi 1882 yn fab i John Pritchard, un o sylfaenwyr clwb Rygbi Casnewydd, ac addysgwyd yn yr ysgol ganolraddol yno. Yn 19 oed, dechreuodd chwarae dros Gasnewydd, a chadwodd ei le hyd 1911; bu hefyd yn cynrychioli Cymru 19 o weithiau. Aeth allan i Ffrainc yn rhyfel 1914, gyda'r South Wales Borderers, a dyrchafwyd ef yn gapten. Bu farw o'i glwyfau, 15 Awst 1916.
  • ROBERTS, EVAN (1718 - 1804) Drefeca a ddaeth i'r Teulu yn 1757 wedi bod yn gweithio yng ngwaith plwm y Mwynglawdd. Gydag Evan Moses a James Pritchard, yr oedd yn un o'r tri ymddiriedolwr a osododd Harris ar y Teulu; ei swydd neilltuol ef oedd trin busnes y sefydliad. Bu farw yn 1804 (claddwyd 5 Mehefin), yn 86 oed. Gweler Richard Bennett yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, vii, 4-10, a M. H. Jones, ibid, ix
  • RHYS AP TEWDWR (bu farw 1093), brenin Deheubarth (1078-1093) Roedd Rhys yn fab i Dewdwr ap Cadell ac felly'n ddisgynnydd i'r tywysog mawr o'r ddegfed ganrif Hywel Dda, ond nid oedd neb o'i linach wryw uniongyrchol wedi dal y frenhiniaeth ers y ddegfed ganrif. Wrth ddod i rym elwodd Rhys o'r arafu a fu ar oresgyniad y Normaniaid yn ne Cymru wedi 1075 yn ogystal ag o ymdrechion ei gefnder pell Caradog ap Gruffudd (arglwydd Gwent Uch Coed ac Iscoed) i ddileu
  • CARADOG o LANCARFAN (fl. 1135), llenor tri awdur hyn yn agos at ei gilydd yn dangos bod Caradog yn Gymro cyfoes yr oedd iddo eisoes beth gair da fel llenor. Ond nid oes dim i brofi iddo drin y maes llafur yr oedd Sieffre wedi ei ddethol iddo. Ni ddywedwyd hyd yr 16eg ganrif fod iddo gyfran yn ysgrifennu 'Brut y Tywysogion'; yn wir, y mae'r dystiolaeth fewnol yn gwbl gryf yn erbyn derbyn cred o'r fath. Hyd y gellir casglu mewn maes cwbl
  • ROBERTS, CARADOG (1878 - 1935), cerddor
  • CARADOG ap GRUFFYDD ap RHYDDERCH (bu farw 1081) Ŵyr Rhydderch ab Iestyn, gŵr o ddylanwad yn Ne Cymru hyd ei farw yn 1033, a mab Gruffydd ap Rhydderch, cydymgeisydd Gruffydd ap Llywelyn, gan yr hwn y'i lladdwyd yn 1055. Yng Ngwynllwg a Gwent yr oedd cartref y teulu; yn y rhanbarth hwn o Gymru y daw Caradog i'r golwg gyntaf, yn 1065, pryd y daeth ar warthaf tŷ hela'r iarll Harold yn Portskewet, gan ei ddistrywio ac anrheithio'r gymdogaeth - heb